You Said, We Did - Llanharry Road Safety
|
||
|
|
||
|
||
|
Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni - Diogelwch Ffyrdd Llanhari |
||
|
Ddoe, cynhaliodd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Garry Saltmarsh a David Jones o Dîm Plismona Cymdogaeth Taf #1 weithrediadau diogelwch ffyrdd gan ddefnyddio dyfais cwmpasu cyflymder i ganfod gyrwyr yn goryrru gyda'r bwriad o gynnal gweithgareddau addysgol ac atgyfeirio ar gyfer gweithgareddau gorfodi lle bo'n berthnasol. Digwyddodd hyn mewn ardaloedd o fewn sector plismona Taf, gyda sylw arbennig yn cael ei roi i ardal a amlygwyd gennych chi o fewn y gymuned leol fel un sy'n arbennig o berthnasol; Heol Llanhari. Mae'r gweithrediadau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch pob defnyddiwr ffordd a cherddwr ac maent yn darparu presenoldeb gwerthfawr, amlwg a thawelwch meddwl i'n cymunedau. Ni fydd goryrru a defnydd gwrthgymdeithasol o gerbydau yn cael eu goddef a bydd ein tîm a'n cydweithwyr yn mynd i'r afael â'r ymddygiad hwn yn gadarn er mwyn cadw De Cymru'n ddiogel. Byddwn yn mynd ar drywydd troseddwyr sy'n peryglu aelodau'r cyhoedd a'ch cymunedau yn ddi-baid.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







